SL(6)513 - Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Cychwyn) 2024

Cefndir a Diben

Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn cydgrynhoi’r gyfraith ar ddiogelu a rheoli amgylchedd hanesyddol Cymru. Dyma’r Ddeddf gydgrynhoi gyntaf a basiwyd gan y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26C (Deddfau Cydgrynhoi’r Senedd).

Daeth rhai o ddarpariaethau’r Ddeddf i rym ar 15 Mehefin 2023, y diwrnod ar ôl y diwrnod y cafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol. Mae Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Cychwyn) 2024 (“y Gorchymyn”) yn dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf sy’n weddill, ac eithrio adran 147 (Camau ar gyfer diogelu adeiladau rhestredig sydd mewn cyflwr gwael).

Gweithdrefn

Dim gweithdrefn

Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn.

1.     Nodir mai’r Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf ar gyfer y Ddeddf gydgrynhoi gyntaf a basiwyd gan y Senedd. Effaith y Gorchymyn yw y bydd y Ddeddf mewn grym yn llawn o 4 Tachwedd 2024 ac eithrio adran 147.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

18 Medi 2024